Jeremiah 43

Jeremeia'n cael ei gymryd i'r Aifft

1Pan oedd Jeremeia wedi gorffen dweud wrth y bobl beth oedd neges yr Arglwydd eu Duw iddyn nhw, 2dyma Asareia fab Hoshaia, Iochanan fab Careach a dynion eraill oedd yn meddwl eu bod nhw'n gwybod yn well yn ateb Jeremeia, “Ti'n dweud celwydd! Dydy'r Arglwydd ein Duw ddim wedi dweud wrthon ni am beidio mynd i fyw i'r Aifft. 3Barŵch fab Nereia sydd wedi dy annog di i ddweud hyn, er mwyn i'r Babiloniaid ein dal ni, a'n lladd neu ein cymryd ni'n gaeth i Babilon.”

4Felly wnaeth Iochanan fab Careach a swyddogion y fyddin a gweddill y bobl ddim aros yn Jwda fel y dwedodd yr Arglwydd wrthyn nhw. 5Dyma Iochanan a'r swyddogion eraill yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn Jwda gyda nhw i'r Aifft. a (Roedd ffoaduriaid gyda nhw, sef y rhai oedd wedi dod yn ôl i fyw yn Jwda o'r gwledydd ble roedden nhw wedi dianc. 6Hefyd y bobl oedd Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol wedi eu gadael yng ngofal Gedaleia – dynion, gwragedd, plant, a merched o'r teulu brenhinol. Aethon nhw hyd yn oed â'r proffwyd Jeremeia a Barŵch fab Nereia gyda nhw.) 7Aethon nhw i'r Aifft am eu bod nhw'n gwrthod gwrando ar yr Arglwydd. A dyma nhw'n cyrraedd Tachpanches.

Jeremeia yn proffwydo y byddai Babilon yn ymosod ar yr Aifft

8Yn Tachpanches dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Jeremeia: 9“Cymer gerrig mawr a'u claddu nhw dan y pafin morter sydd o flaen y fynedfa i balas y Pharo yn Tachpanches. Dw i eisiau i bobl Jwda dy weld ti'n gwneud hyn. 10Wedyn dywed wrthyn nhw mai dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i anfon am fy ngwas Nebwchadnesar, brenin Babilon. Dw i'n mynd i osod ei orsedd e ar y cerrig yma dw i wedi eu claddu, a bydd e'n codi canopi drosti. 11Mae e'n dod i daro gwlad yr Aifft.

Bydd y rhai sydd i farw o haint yn marw o haint.
Bydd y rhai sydd i gael eu cymryd yn gaethion yn cael eu cymryd yn gaethion.
Bydd y rhai sydd i farw yn y rhyfel yn marw yn y rhyfel.

12Bydd e'n rhoi temlau duwiau'r Aifft ar dân. Bydd e'n llosgi'r delwau neu'n mynd â nhw i ffwrdd. Bydd e'n clirio gwlad yr Aifft yn lân fel bugail yn pigo'r llau o'i ddillad. Wedyn bydd e'n gadael y lle heb gael unrhyw niwed. 13Bydd e'n malu obelisgau Heliopolis
43:13 obelisgau Heliopolis Canolfan addoli Amon-Re, duw'r haul. Roedd yn enwog am ei obelisgau. Roedd Heliopolis tua 6 milltir i'r gogledd-ddwyrain o ble mae dinas Cairo heddiw.
, ac yn llosgi temlau duwiau'r Aifft yn ulw.’”

Copyright information for CYM